Writers Workshops
Rhiannon Roberts
Blodau gwyllt y Jwngwl
Sefai coed tal gwyrddion yn stond yn y jwngl, wrth i fwnciod ystwyth neidio o frigau i frigau.
Swishodd y dwr glas yn yn llyn, wrth i bysgod bob lliw neidio i mewn ac i mas. Tywynnau’r haul yn ddisglair wrth i’r holl blanhigion ddawnsio. Ond roedd yna un math o flodyn yn sefyll allan.
Blodau dychrynllyd o salw fel rhyw gawr anferth oeddynt. Roedd ganddynt waelod cadarn glas, melyn a gwyrdd, yna roedd yna goes fawr gyda ryw linellau arnynt fel bysedd tenau main. Ar dop y goes roedd rhywbeth fel cwarter neidr yn neidio lan atoch. Ar ben y neidr roedd yna blat crwn gyda tyllau bach ynddo. Sefai’r plat yn stond - i ddweud y gwir, sefai’r blodyn i gyd yn llonydd. Doedd e ddim yn chwythu yn y gwynt nac yn crynu tamaid. Fe sefai yno heb ddweud smic, fel carreg yn unig mewn ogof.
Wrth gerdded yn nes atynt weles arwydd ar garreg a oedd reit ar bwys y blodau gwyllt hyn.
Fe ddywedai:
MARY BENNET
Triplets 1985
Sefais yn stond, a oedd rhyw hen hanes gan y blodau yma? A’i Mary Bennet oedd wedi creu’r bwystfilod yn 1985? A oedd y blodau hyn yn mynd i wneud niwed i mi?
Rhyw gwarter awr wedyn stopiais a meddwl fy mod yn ddwl. Does neb yn gallu creu blodau. Mam natur a wnaeth flodau a dim person yw hi. Ond roedd rhywbeth am y blodau hyn. Fe gerddais yn nes atynt, yna fe ffalchiodd olau disglair yn fy llygaid. Caeais fy llygaid a braw, roedd fy mhen yn grasboeth. Yna, allan o unman death llais yn dweud rhyw eiriau
“RYDYM EISIAU BWYD”
Nawr, roedd fy mhen yn troi, roedd y llais a’r golau wedi dod or blodau rhyfedd yma.
Fe ddywedodd y blodau eu bod eisiau bwyd. Fe grynais wrth i ddeigryn lifo lawr fy ngwyneb. Roedd y planhigion yn bwyta pobl a phlant, roeddent eisiau fy mwyta i. Ond sut y gallai hyn fod. Neidiais i fyny i’r goeden agosaf gan sgrechian. Roedd y planhigion yn dod yn nes, roedd eu coesau hir main a’u gwynebau slic, gwlyb yn troi arnaf. ‘Roedd eu crafangau main bron a fy nal ond glywais lais arall, llais cryf.
“Beth ddiawl sy’n bod ferch”, gweiddai.
Yna, fe wyddais beth oedd wedi digwydd. Roeddwn wedi cwympo i gysgu wrth edrych ar fodel o’r blodau yn yr amgueddfa. Dychmygais y cwbwl!!!
Ciara Laverty
Petalled Form
It is a deadly flower from a distant world, it eats large flies and as they fly in, its petals slowly close and form a dome. After swallowing and digesting its meal the rear petals open and drop out the remains of the meal. It has evolved to its red rusty colour because it lives on red dust plains where the wind beats and whips at its thick skin. The natives know the flower and believe that its sap has healing powers. The flower needs no roots and is thrown about in wind. The flower may live as long as 2,000 years unless it is disturbed. In winter it uses its petals as shovels and digs a hole in the ground to wait till the spring rain falls. When crushed and dried it makes a sweet powder which is the natives kind of sugar.
Research Introduction
Simon
Carroll Interview | Kecskemet | Jamaica | Keramika
English / Cymraeg | Telling
Tales With Technology | Close
Relations Marcus Thomas at Aberystwyth | For
Love or Money

